Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (34)v3 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. |
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) |
3. Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Strategaethau Gofalwyr (Cymru) 2011 (15 munud) NDM4868 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2011 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Tachwedd 2011.
Dogfennau ategol: Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2011 Rheoliadau Strategaethau ar gyfer Gofalwyr (Cymru) 2011- Memorandwm Esboniadol – Saesneg yn unig
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol |
4. Cynnig i gymeradwyo Gorchymyn Caniatâd Cynllunio (Tynnu'n ôl Orchymyn Datblygu neu Orchymyn Datblygu Lleol) (Iawndal) (Cymru) 2012 (15 munud) NDM4869 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Caniatâd Cynllunio (Tynnu'n ôl Orchymyn Datblygu neu Orchymyn Datblygu Lleol) (Iawndal) (Cymru) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Tachwedd 2011.
Dogfennau ategol: Gorchymyn Caniatâd Cynllunio (Tynnu'n ôl Orchymyn Datblygu neu Orchymyn Datblygu Lleol) (Iawndal) (Cymru) 2012 – Memorandwm Esboniadol – Saesneg yn unig Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
|
5. Cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cydgysylltu Gofal a Chynllunio Gofal a Thriniaeth) (Cymru) 2011 (15 munud) NDM4867 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cydgysylltu Gofal a Chynllunio Gofal a Thriniaeth) (Cymru) 2011 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Tachwedd 2011.
Dogfennau ategol: Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cydgysylltu Gofal a Chynllunio Gofal a Thriniaeth) (Cymru) 2011 Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cydgysylltu Gofal a Chynllunio Gofal a Thriniaeth) (Cymru) 2011 – Memorandwm Esboniadol – Saesneg yn unig Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
|
6. Cynnig i gymeradwyo Gorchymyn Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (Diwygio) 2011 (15 munud) NDM4866 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (Diwygio) 2011 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Tachwedd 2011.
Dogfennau ategol: Gorchymyn Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (Diwygio) 2011 Gorchymyn Mesur Diwydiant Cig Coch (Cymru) 2010 (Diwygio) 2011 – Memorandwm Esboniadol – Saesneg yn unig Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol |
7. Dadl ar y Gyllideb Flynyddol/Derfynol (90 munud) NDM4870 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25:
Yn cymeradwyo’r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012-13, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ ar 29 Tachwedd 2011.
Troednodyn:
Yn unol â’r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20.28, dyma’r wybodaeth sydd yn y Gyllideb Derfynol:
1. y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;
2. yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru am y flwyddyn ariannol y mae’r cynnig yn ymdrin â hi;
3. cysoniad rhwng yr adnoddau a neilltuwyd i gyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a’r adnoddau sydd i’w hawdurdodi i’w defnyddio yn y cynnig;
4. cysoniad rhwng amcangyfrifon o’r symiau sydd i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau sydd i’w hawdurdodi i’w talu o’r Gronfa yn y cynnig; a
5. cysoniad rhwng yr adnoddau sydd i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau sydd i’w hawdurdodi i’w talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).
Cyhoeddwyd yr wybodaeth ychwanegol hon hefyd ar gyfer yr Aelodau:
Nodyn esboniadol ynglyn â’r newidiadau rhwng cynigion y Gyllideb Ddrafft a’r Gyllideb Derfynol.
Dogfennau ategol:
Y Gyllideb Flynyddol ar gyfer 2012-13 |
8. Dadl ar Heriau Iechyd Cyhoeddus – Rheoli Tybaco (60 munud) NDM4871 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ystyried Cynllun Gweithredu Cymru ar Reoli Tybaco;
2. Yn nodi amcanion y cynllun sef:
a) lleihau'r niwed i iechyd y cyhoedd a achosir gan ysmygu yng Nghymru, yn arbennig amddiffyn plant rhag effeithiau niweidiol tybaco; a
b) lleihau amlder ysmygu yn ein cymunedau mwyaf amddifad gan fod ysmygu yn un o brif achosion y bwlch mewn disgwyliad oes rhwng pobl gyfoethog a phobl dlawd; ac
3. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno deddfwriaeth, os dengys tystiolaeth fod yr ymgyrch i ostwng ysmygu mewn ceir sy'n cario pobl ifanc dan oed yn methu â sicrhau gostyngiad sylweddol yn y graddau y mae pobl yn dod i gysylltiad â mwg ail-law.
Cafodd Cynllun Gweithredu Cymru ar Reoli Tybaco ei anfon at yr Aelodau drwy e-bost ar 29 Tachwedd 2011.
Dogfennau ategol: Cynllun Gweithredu Cymru ar Reoli Tybaco Y Cynllun Cyflenwi ar Reoli Tybaco
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Ym mhwynt 3, dileu ‘Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru'n ystyried cyflwyno deddfwriaeth’ a rhoi yn ei le ‘Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth yn y tymor Cynulliad hwn’. Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar gynyddu’r niferoedd sy’n manteisio ar gynlluniau rhoi’r gorau i ysmygu er mwyn lleihau’r niwed i iechyd y cyhoedd a achosir gan ysmygu.
|
9. Dadl Plaid Cymru (60 munud) NDM4872 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu wrth y nifer uwch o farwolaethau yn y gaeaf oherwydd y cynnydd yn nifer y bobl sy’n dioddef o dlodi tanwydd.
2. Yn annog Llywodraeth Cymru i ddefnyddio’r holl bwerau sydd ganddi y gaeaf hwn i leihau nifer y marwolaethau yn y gaeaf.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ei strategaeth tlodi tanwydd yn sgil cynnydd diweddar mewn prisiau tanwydd, gan ganolbwyntio ar:
a. Ôl-ffitio stoc tai Cymru; a
b. Mynd i’r afael â diffyg sicrwydd mewn perthynas ag ynni drwy fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, a buddsoddi mewn datblygu ‘sgiliau gwyrdd’ y sector adeiladu yng Nghymru, fel y cofnodwyd mewn papur diweddar ‘Skills for Eco-Refurbishment’.
Gellir gweld Strategaeth Tlodi Tanwydd Llywodraeth Cymru drwy ddilyn y linc a ganlyn:
http://wales.gov.uk/docs/desh/publications/100723fuelpovertystrategycy.pdf
Gellir gweld y papur ‘Skills for Eco-Refurbishment’ drwy ddilyn y linc a ganlyn:
http://calvjones.com/pages/greenskills-74987 - Saesneg yn unig
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3: yr hyn sy’n achosi mwy o dlodi tanwydd ymysg cartrefi gwledig; Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3: cartrefi sy’n dlawd iawn o ran tanwydd nad ydynt yn gymwys ar gyfer Gwelliannau i’r Cartref o dan gynllun “Nyth” Llywodraeth Cymru; Gellir gweld y Cynllun Nyth drwy ddilyn y linc a ganlyn: Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgorffori cynllun gweithredu’r Siarter Tlodi Tanwydd yn ei Strategaeth Tlodi Tanwydd. Gellir gweld y Siarter Tlodi Tanwydd drwy ddilyn y linc a ganlyn: Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod llai o bobl wedi manteisio ar y brechlynnau ffliw tymhorol ymysg y grwpiau ‘mewn perygl’ o dan 65 oed, ac felly’n galw ar Lywodraeth Cymru i roi mesurau ar waith i gynyddu’r niferoedd sy’n cael y brechlyn ffliw tymhorol er mwyn atal un o brif achosion marwolaethau diangen dros y gaeaf. |
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 12:30 Dydd Mercher, 7 Rhagfyr 2011